Plas Tan Dinas

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:39, 19 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Plas-tan-dinas yn westy cefn gwlad sylweddol a safai nid nepell o fryngaer Dinas Dinlle. Cafodd ei adeiladu rywbryd cyn 1888.[1] Adeilad deulawr ydoedd, gyda rendr ar y waliau. Roedd ganddo feranda ar bob ochr. Yn ystod y 1970au bu'n gyrchfan lwyddiannus ar gyfer llawer o ddigwyddiadau cymdeithasol, ond aeth y busnes i lawr a chwalwyd yr adeilad gan y perchnogion tua diwedd y 1990au. [2]

Cyfeiriadau

  1. Map Ordnans 6" i'r filltir, 1888
  2. Gwefan Coflein [1], cyrchwyd 19.1.2024; Gwybodaeth leol