Cae Cwnstabl

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:17, 16 Chwefror 2024 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae'r annedd a elwir yn Gae Cwmstabl ar gyrion gogledd-ddwyreiniol Y Groeslon. Er na ddaeth cyfeiriadau at yr enw cyn 1839 i'r amlwg, mae'n debygol iawn fod y lle'n gysylltiedig ar un adeg â chwnstabl/iaid plwyf Llandwrog. Cyn sefydlu gwasanaeth heddlu cyflogedig etholid cwnstabliaid i'r plwyfi ac roeddent yn gyfrifol am sicrhau y cynhelid cyfraith a threfn, anfon cardotwyr o'r plwyf a goruchwylio'r tlodion. Mae yna bosibilrwydd mai'r cyfenw Constable a geir yn Cae Cwnstabl ond, gan nad yw'r cyfenw hwnnw'n digwydd yn yr ardal, yr esboniad mwyaf tebygol yw mai cartref cwnstabl y plwyf ydoedd.1

Cyfeiriadau

1. Glenda Carr, Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd, (Gwasg y Bwthyn, 2011), t.65.