South Croke
South Croke oedd yr hen enw Saesneg am geg Afon Menai wrth iddi ymagor ar Fae Caernarfon. Ers dwy ganrif a mwy, fodd bynnag, mae pawb wedi defnyddio'r enw Abermenai. Nid oedd William Morris yn arddel yr enw ar ei siartiau morwrol a wnaed ar ganol y 18g. Un o'r enghreifftiau olaf o ddefnyddio'r enw oedd ym 1808, pan soniodd ysgrifennwr di-enw am South Croke.<ref>North Wales Gazette, 14.7.1808, t.4/ref>