Becws a Siop Glanrhyd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 20:34, 1 Medi 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Sefydlwyd Becws a Siop Glanrhyd ym mhentref Llanaelhaearn gan R.L. Jones. Fe'i holynwyd yn y busnes gan ei fab, Gwilym, ac aelodau eraill o'r teulu. Ar un adeg bu'n fusnes pur fawr ac roedd bri ar y siop a oedd mewn lleoliad da ar fin ffordd fawr Pwllheli - Caernarfon. Roedd gan y cwmni fflyd o faniau hefyd, a fyddai'n danfon nwyddau i ffermydd yr ardaloedd cyfagos yn ogystal ag i siopau lleol. Erbyn hyn mae'r siop wedi cau ers rhai blynyddoedd ond mae'r becws yn dal i weithredu gan gynhyrchu amrywiaeth o fara a theisennau. Mae'r cynnyrch ar gael o hyd yn siopau'r pentrefi a'r trefi cyfagos.


Cyfeiriadau

Gwybodaeth bersonol