Brwydr Ysgol Llanaelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:00, 13 Ionawr 2024 gan Mwngrel o Feirion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Ysgol Gynradd Llanaelhaearn wedi cau ers Medi 2020, ac mae plant y pentref bellach yn mynychu ysgolion Bro Plenydd ( Y Ffor, Llyn) neu ysgol Chwilog (Eifionydd). Gweddol di-wrthwynebiad bu'r frwydr olaf, ond bu brwydr sylweddol yn y cyfnod 1970-2 i gadw'r ysgol yn agored. Erbyn 1970 roedd nifer disgyblion yn yr ysgol wedi gostwng i 27, ac yn dilyn argymhellion Adroddiad Gittins dechreuodd Adran Ysgol Cyngor Sir Gwynedd feddwl am gau'r ysgol. (Roedd 17 o ysgolion trwy'r Sir dan berygl felly).