Capten Robert Thomas, Llandwrog

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:44, 1 Rhagfyr 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Robert Thomas (1843-1903) yn forwr ac yn gapten ar longau mawr ddiwedd yr oes hwylio. Hanai o bentref Llandwrog, o deulu digon ddistadl. Cychwynodd ei yrfa ar y môr fel bachgen cabin ar un longau'r teulu Davies, Porthaethwy. Aeth ymlaen i fod yn un o gapteiniaid llongau hwylio mawr mwyaf llwyddiannus. Fo oedd yn dal y record am hwylio o Brydain i San Francisco ac yn ôl yn ei long y Merioneth. Bu'n gapten hefyd ar un arall o longau enwocaf y cyfnod yng Ngogledd Cymru, yr Afon Alaw.[1]Llongau mawr oedd y rhain, ac er eu bod yn perthyn i Ogledd Cymru, hwylient fel arfer o ddociau Lerpwl, ac i'r ddinas honno aeth Robert Thomas i fyw. Diweddodd ei oes yn San Francisco yn 60 oed wedi capteinio ei long o gwmpas yr Horn.[2]

Mae cofiant iddo wedi ei gyhoeddi, sef Aled Eames, Ship Master, (Caernarfon, 1980).

Cyfeiriadau

  1. Emrys Hughes ac Aled Eames, Porthmadog Ships, (Caernarfon, 1975), t.122
  2. Lewis Lloys, The Port of Caernarfon, 1793-1900,(Caernarfon, 1989), t.122