Maenor Uwchgwyrfai

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 22:26, 27 Tachwedd 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ceir cyfeiriadau at uned o'r enw Maenor Uwchgwyrfai weithiau. Nid oedd maenorau'n bodoli dan y tywysogion. Yn Lloegr yn y Canol Oesoedd (ac wedyn) roedd maenorau'n bwysig fel yr uned sylfaenol mewn rheolaeth a chymdeithas. Yn arferol, byddai maenor yn cynnwys plasdy arglwydd y faenor, nifer o gaeau a rennid yn leiniau a'u gosod i drigolion y faenor eu haemaethu, a tir gwast lle gellid pori anifeiliaid, hel coed tân ac ati. Rheolid y faenor trwy gynnal llysoedd maenorol. Ni cheid trefn mor gaeth â hyn yng Nghymru, lle ceid trefgorddi dynion caeth a threfgorddi dynion rhydd, gyda nifer o drefgorddi ym mhob cwmwd, sef yr uned leiaf ar gyfer rheolaeth leol nes i blwyfi ddatblygu tua'r 15g. Roedd y drefgordd yn uned ar gyfer codi trethi, ond trafodid popeth arall yn [[Llys y Cwmwd|llysoedd y cwmwd.

Roedd llawer o fân faterion ynglŷn â daliadaeth tir a materion megis tresbas wedi cael eu trafod mewn llysoedd maenorol yn Lloegr ers y Canol Oesoedd a chan fod y drefn yng Nghymru’n gorfod cydymffurfio â’r hyn ydoedd yn Lloegr ar ôl pasio'r Deddfau UNo ym 1536 a 1543, rhaid oedd cynnal llysoedd maenorol. Yr unig broblem oedd nad oedd y cysyniad o faenor (sef tir a reolid gan arglwydd y faenor) yn bodoli yng Nghymru cyn 1284 ac, ar ôl hynny, dim ond y trefi caeth a oedd yn gysylltiedig â phlasau’r tywysogion a’r sefydliadau crefyddol a gafodd eu hystyried fel maenorau – megis Maenol Bangor (tir Esgobaeth Bangor) neu Abergwyngregyn. Nid oedd tir cyffelyb yn Uwchgwyrfai ac felly rhaid oedd creu maenor “ffug” at ddibenion y drefn newydd. Penodwyd stiward ar gyfer Maenor Uwchgwyrfai ac mae’n bur sicr bod y stiward yn cynnal llysoedd maenorol i drafod materion sifil ynglŷn â’r tir comin ac ati yn gyson.

I'w barhau....