Guto Dafydd

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:33, 27 Tachwedd 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a nofelydd a aned ym 1990 ac a fagwyd yn Nhrefor, ond sydd bellach yn byw ym Mhwllheli gyda'i deulu, yw Guto Dafydd.

Dechreuodd ymddiddori mewn barddoniaeth a rhyddiaith yn ei lencyndod gan ennill nifer o wobrau mewn eisteddfodau lleol tra oedd yn dal yn ddisgybl yn Ysgol Glan-y-môr, Pwllheli. Ar ôl gadael yr ysgol aeth i Rydychen i astudio cwrs diwinyddiaeth am gyfnod byr, ond penderfynodd ddilyn llwybr gwahanol ac astudio am radd yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor, lle cafodd ddosbarth cyntaf.

Daeth i amlygrwydd cenedlaethol yn 2013 pan enillodd Goron Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Yna'r flwyddyn ganlynol enillodd Goron yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanelli. Yn bedair ar hugain oed ar y pryd, ef oedd un o'r rhai ieuengaf i ennill y goron genedlaethol.

Flwyddyn yn ddiweddarach canfuwyd ei fod yn dioddef oddi wrth y cyflwr fibromatosis ac o ganlyniad bu'n rhaid iddo gael triniaeth radiotherapi mewn ysbyty ym Manceinion am rai wythnosau. Defnyddiodd y profiad hwn yn ei nofel, Ymbelydredd, a enillodd iddo Wobr Goffa Daniel Owen yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Y Fenni yn 2016. Ysgrifennodd lawer o'r nofel hon tra oedd yn cael triniaeth yn yr ysbyty.

Yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst yn 2019 enillodd ei ail Goron Genedlaethol, ac yn yr un eisteddfod enillodd Wobr Goffa Daniel Owen hefyd am yr eiltro gyda'i nofel Carafanio. Mae'n garafaniwr brwd ac mae'r nofel ddoniol a dychanol hon wedi ei seilio ar ei brofiadau ef a'i briod a'u dau blentyn o hwyl a helbulon carafanio. Ysgrifennodd y rhan fwyaf o'r nofel yma ar y bws Rhif 12 o Bwllheli i Gaernarfon wrth deithio yn ôl a blaen i'w waith. Mae wedi cyhoeddi dwy nofel arall, sef Jac a Stad, yn ogystal â chyfrol o farddoniaeth, Ni Bia'r Awyr.

Bu Guto Dafydd yn gweithio am gyfnod i Gyngor Sir Gwynedd ar ôl gadael y brifysgol ond ers rhai blynyddoedd bellach mae'n gweithio yn swyddfa Comisiynydd yr Iaith Gymraeg yng Nghaernarfon. Mae'n briod â Lisa o Benrhyndeudraeth ac mae ganddynt fab a merch, Casi Mallt a Nedw Lludd, a bellach maent wedi ymgartrefu ym Mhenlon Llŷn ym Mhwllheli.

Bu'n Is-gadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd a gynhaliwyd ym Moduan yn 2023. Yn 2023 hefyd cyhoeddodd gyfrol o gerddi Mae Bywyd Yma - Cerddi a Lluniau Llwybrau Llŷn (Gwasg Carreg Galch), gyda lluniau trawiadol gan Dafydd Nant i gyd-fynd â'r cerddi, sy'n ymdrin â rhai o fannau trawiadol Llŷn a'u dylanwad ar y bardd a'i deulu.

Mae ei frawd iau, Elis Dafydd, hefyd wedi dod i amlygrwydd fel bardd. Enillodd Gadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Eisteddfod Caerffili a'r Cylch yn 2015 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol fer o gerddi Chwilio am dân (Cyhoeddiadau Barddas) yn 2016.


Cyfeiriadau