Neuadd Goffa Pen-y-groes
Ail-enwyd y neuadd yn Neuadd Goffa Pen-y-groes wedi iddi gael ei hymestyn yn sylweddol trwy adeiladu ail ystafell fawr a mynedfa newydd. Fe'i hagorwyd ar ei newydd wedd ym 1933. Mae'r adeilad bellach yn wynebu safle Gorsaf reilffordd Pen-y-groes yn hytrach na'i fod yn amlwg o ganol y pentref. Gwelir elfennau (digon amrwd) o arddull adeiladu'r cyfnod yn yr estyniad, yn arbennig yr arysgrif uwchben y brif fynedfa.
Y tu allan, ar ganol Sgwâr y Farchnad, y mae cofeb ryfel y pentref gydag englyn enwog R. Williams Parry arni:
O Gofadail gofidiau tad a mam! Tydi mwy drwy'r oesau Ddysgi ffordd i ddwys goffáu Y rhwyg o golli'r hogiau.
O'r Neuadd hon y cychwynnodd 2000 o ferched ar eu Gorymdaith y Merched dros Heddwch ym 1926.[1]
Cafwyd grantiau loteri ar ddechrau'r 2010au i adnewyddu'r adeilad, a defnyddir y neuadd a'i dwy brif ystafell, parlwr a chegin ar gyfer sawl gweithgaredd ar hyn o bryd, gan gynnwys Sioe Arddio, ffeiriau, prydau cymunedol, dosbarthiadau a darlithoedd.
Cyfeiriadau
- ↑ Plac ar yr adeilad