Tafarn y Boar's Head

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:21, 1 Tachwedd 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Tafarn ger pont dros Afon Llyfni oedd Tafarn y Boar's Head ar ochr y briffordd o Gaernarfon i Bwllheli, a hynny ym mhentref Pontlyfni. Roedd yn sefyll gyferbyn â'r siop hen bethau presennol, ac (yn fwy heriol efallai!) gyferbyn â chapel Bedyddwyr y pentref.

Nid yw'n sicr pryd yr agorwyd y dafarn. Mae adeilad yn cael ei ddangos ar y safle ar fap degwm 1841, ac fe nodir enw'r dafarn ar olygyddiad cyntaf y map Ordnans, 1888.

Caewyd y dafarn, mae'n debyg, ym 1916 wedi i'r ynadon yn Llys Trwyddedu Gwyrfai wrthod adnewyddu'r drwydded. Defnyddid yr adeilad am flynyddoedd fel swyddfa bost Pontlyfni, ond mae'r adeilad bellach wedi ei chwalu.