Tafarn Tŷ'n Llan

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:14, 31 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Tafarn Tŷ'n Llan yn dafarn gyferbyn â'r |eglwys ym mhentref Llandwrog. Ers 2021 mae hi wedi cael ei datbygu'n dafarn gymunedol gan griw o bobl leol.

Enw "cywir" Tŷ'n Llan" yw Tafarn yr Harp ond prin yw'r enw swyddogol yn cael ei arddel. Mae'r enw Tŷ'n Llan yn gyffredin fel enw ar dafarndai ger eglwysi, sef canolbwynt y plwyf ll;e byddai'r trigolion yn cwrdd ar gyfer pob math ar weithgareddau - mynychu'r eglwys, cynnal cyfarfodydd neu chwarae gemau traddodiadol.

Mae'r adeilad presennol yn dyddio i'r cyfnod tua 1860 pan oedd Spencer Bulkeley Wyn, 3ydd Arlgwydd Newborough yn datblygu pentref Llandwrog fel pentref model, gyda tai o safon a oedd (a hyn yn bwysicaf) yn bleser i'r llygad. Dyna, efallai, pam fod yr adeilad presennol â golwg hŷn na'i oed o ran arddull.

Heblaw am dafarnau yn y trefi, roedd tai cwrw a thafarnau'n arferol yn ffordd i ffarmwr neu grefftwr wneud ychydig o elw ychwanegol, neu weddw grafu byw, trwy fragu a gwerthu'r cynnyrch wedyn. Nid yw'n syndod felly nad yw Tŷ'n Llan yn cael ei nodi'n benodol ar fap degwm y plwyf tua 1849. Mae'n debyg mai Owen Jones oedd yn cadw'r dafarn ym 1841, adeg y cyfrifiad manwl cyntaf, er na chrybwyllwyd tafarn. Ffarmwr sylweddol oedd o, yn cyflogi dwy forwyn fferm a phump o weision fferm; Tŷ'n Llan oedd enw'r fferm yn gyffredinol. Erbyn 1861 roedd Owen wedi marw, ond roedd ei weddw Gwen yn dal i ffermio Tŷ'n Llan, fferm 160 erw, gyda chymorth pump gwas fferm. Ym 1871, ffermwr ifanc lleol oedd yn ffermio Tŷ'n Llan: Edmund Jones, 28 oed. Nid oedd sôn am dafarn na thafarnwr unwaith eto. Priododd Ellen, merch o Lanrug, yn fuan wedyn, ond bu farw tua 1878, gan adael Ellen efo dau o blant. Ym 1881, hi oedd yn ffermio Tŷ'n Llan, ond nodir hefyd ei bod yn dafarnwraig drwyddedig. Mae hyn yn cadarnhau bod cadw tafarn yn rhan o waith y fferm, a hynny am y tro cyntaf.