John Llywelyn Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 09:27, 5 Hydref 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd John Llywelyn Roberts yn fardd ac yn undebwr. Fo oedd ysgrifennydd Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle[1] ar ddiwedd y 1950au.

Fel bardd, dywedir mai ef oedd un o'r ychydig yn Nyffryn Nantlle ynghanol yr 20g i farddoni'n helaeth ac yn gyhoeddus, gan iddo anfon llawer o'i waith i'r Herald Cymaeg. Ni chyhoeddodd ddim o'i waith ar ffurf cyfrol fodd bynnag.[2]. Mae copi o gasgliad o'i waith, mewn teipysgrif gyda rhai cerddi mewn llawysgrifen, i'w gael yn y Llyfrgell Genedlaethol, gyda'r gwaith yn cael ei ddyddio rhwng 1942 a 1974.[3]

Cyfeiriadau

  1. Gwyn Edwards, Pwyllgor y Di-waith Dyffryn Nantlle, Llafur, Cyf.5, 1, tt.29-35, [1]
  2. Gwybodaeth lafar a gafwyd yn lleol
  3. LlGC, NLWFacs 432