William John Davies (Glan Llyfnwy)
Ganed William John Davies (1848-1891) ar 25 Ionawr 1848 a'i fagu ym Mhen-y-groes. Tua 1872, bu'n ymaelodi â'r Temlwyr Da a chael ei denu i fynychu Capel Bethel (MC), Pen-y-groes. Canfyddwyd ei fod yn ddyn alluog, ac ar anogaeth aelodau'r capel, fe ddechreuodd bregethu ym 1876. Aeth yn y man yn fyfyriwr i Goleg Y Bala. Bu'n weinidog mewn gwahanol fannau, yn cynnwys Tanrallt o 1883 hyd nes iddo briodi ym 1887.[1] Symudodd wedyn i fod i ardal Brynaerau ac na roddwyd galwad ffurfiol iddo, fe weithredodd i bob pwrpas fel gweinidog ar eglwys Brynaerau ger Pontlyfni.[2]
Bu'n barddoni dan yr enw Glan Llyfnwy, gan gyfansoddi nifer o awdlau - megis rhai ar y testun "Cartref", "Y Llafurwr" ac "Y Frenhines Victoria". Fel llawer o waith barddonol y cyfnod roedd y rhain yn bur faith a thrymllyd a'i wendid pennaf yn ôl Myrddin Fardd oedd ei duedd i ddefnyddio'r un geiriau ac ymadroddion hyd at syrffed yn ei waith, "fel yn sathru sodlau eu gilydd, yr hyn a brofa brinder iaith." [3] Serch hynny, bu i un o'i gyfoedion ei osod ar ben rhestr o ddeunaw o feirdd Dyffryn Nantlle yn ôl eu safon fel beirdd; dichon mai bardd ei gyfnod ydoedd.[4]Beth bynnag oedd ei wendidau fel bardd, roedd yn amlwg ei fod yn uchel ei barch fel gweinidog, a phan fu farw'n 43 oed ar 8 Mehefin 1891, talodd ei gyd-weinidog, Alafon, deyrnged gynnes iddo yn rhifyn Rhagfyr 1891 o'r cylchgrawn Cymru.[5]
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), tt.301, 339
- ↑ W. Hobley, Hanes Methodistiaeth Arfon, Cyf.I, Dosbarth Clynnog (Caernarfon, 1910), t.62
- ↑ John Jones (Myrddin Fardd), Enwogion Sir Gaernarfon, t.35-6.
- ↑ ’Y Genedl Gymreig’’ 8.2.1888, t.7
- ↑ Cymru, Rhagfyr 1891; erthygl goffa gan Alafon.