Arwerthiant Ffermydd Elusen Dr William Lewis

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:33, 26 Medi 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ddydd Gwener 3 Rhagfyr 1920 am 2.30pm yn yr Assembly Room, Stryd y Farchnad, Caernarfon, cynhaliwyd arwerthiant nifer o ffermydd a thiroedd ym mhlwyf Llanaelhaearn yn unol â chyfarwyddiadau Ymddiriedolwyr Elusen Dr William Lewis. Yn gweithredu ar ran yr elusen fel Asiant roedd Mr J. Roberts Williams, 14 Stryd y Farchnad Caernarfon a'r Cyfreithiwr oedd Mr John Williams, 5 Stryd y Farchnad. Yr Arthwerthwyr oedd W.M Dew a'i Fab ac R. Arthur Jones, a oedd â swyddfeydd yn Caxton Buildings, Bangor, a hefyd yng Nghonwy.

Yn y catalog a argraffwyd ar gyfer yr arthwerthiant disgrifir yr eiddo fel "Valuable Freehold Farms and Accommodation Lands". Roedd cyfanswm y tiroedd a oedd i'w gwerthu oddeutu 420 o erwau.

Y fferm gyntaf i ddod o dan y morthwyl oedd Terfyndaublwyf. Fel yr awgryma ei henw mae'n sefyll ar y terfyn rhwng plwyfi Llanaelhaearn a Chlynnog, a bu achos Methodistaidd cynnar yn cyfarfod yno ddechrau'r 19g cyn agor capel Seion Gurn Goch. Nodir fod y fferm ym 1920 ychydig dros 37 erw, gyda'r tir o boptu'r briffordd rhwng Caernarfon a Phwllheli. Y tenant bryd hynny oedd Thomas Owen a thalai rent blynyddol o £25 16s 8d, degwm o £2 6s 8d (daeth y degwm i ben yn fuan wedyn pan ddatgysylltwyd yr Eglwys Wladol yng Nghymru oddi wrth y wladwriaeth a sefydlu'r Eglwys yng Nghymru) a threth tir o 8s 4. Nodwyd gan rywun mewn pensel ar y copi sydd gen i o'r catalog iddi gael ei gwerthu am £1,080 ond ni nodwyd enw'r prynwr gwaetha'r modd.

Nesaf ar y rhestr oedd fferm Tan-y-graig, sy'n llechu yng nghysgod y mynydd o'r un enw. Roedd y fferm hon yn 17 erw a'r tenant ym 1920 oedd Humphrey Roberts a dalai £9 1s 6d o rent, degwm o 11s 6d a threth tir o 3s. Nodir fod y tir yn cynnwys cymysgedd o dir âr a thir pori, yn ogystal â thiroedd amgaeëdig ar y llechweddau uwchlaw'r fferm ar gyfer pori defaid. Nodir hefyd fod gan berchnogion a deiliaid fferm Tyddyn Coch gerllaw yr hawl i fynd â defaid drwy fferm Tan-y-graig i'w tiroedd pori hwythau ar y llechweddau. Gwerthwyd Tan-y-graig am £600 gyda'r tenant yn ei phrynu.

Tyddyn Coch ei hun a werthwyd nesaf. Mae'r fferm hon ar gyrion pentref Trefor gyda llawer o'i thir ar hyd ffordd fawr Pwllheli-Caernarfon. Yn ôl y catalog roedd fymryn dros 62 erw ym 1920, gyda'r caeau yn gymysgedd o dir âr a thir pori "of fair quality", gyda 30 erw arall o dir pori garw. Y tenant adeg yr arwerthiant oedd Owen Pierce a dalai rent o £36 3s 8d, degwm o £2 9s 8d a threth tir o 11s. Gwerthwyd y fferm am £1,100 a hynny fel y nodir yn fy nghatalog i'r "Colonel" - tybiaf mai'r Cyrnol Darbishire oedd hwnnw.