Ffatri wlân Bryn
Melin wlân oedd Ffatri Bryn, Llanllyfni, neu i roi hen enw'r ardal iddi, Penbryn Ffatri.[1] Yr enw gwreiddiol, fodd bynnag, oedd Ffatri Pen-y-bont. Credir i'r adeilad gael ei chodi ym 1806 gan fod carreg ar yr adeilad i'r perwyl hwnnw. Y perchnogion cyntaf, mae'n debyg, oedd E Williams, Jane Jones a John Thomas. Rhannodd Ffatri wlân Bryn yr un ffrwd felin i yrru ei pheiriannau â Gwaith llechi Dorothea oedd gerllaw. Safai'r ddwy felin ar ochr ogleddol Afon Llyfni, ac mae'r ddau adeilad yn dal i sefyll, er eu bod wedi eu hailadeiladu'n sylweddol. Mae'n debyg fod Ffatri Bryn erbyn 1900 wedi cymryd adeiladau Gwaith Dorothea drosodd. [2]
Mae'n debyg fod y ffatri wedi ei henwi ar ôl fferm Bryn Castell gerllaw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Gwefan nantlle.com [1], cyrchwyd 19.9.2023
- ↑ http://www.coflein.gov.uk/en/site/411187/details/bryn-woollen-factorypenybont-factory Comisiwn Henebion Cymru, gwefan Coflein