Ffatri wlân Bryn
Rhannodd Ffatri wlân Bryn, Llanllyfni, yr un ffrwd felin i yrru ei pheiriannau â Gwaith llechi Dorothea oedd gerllaw. Safai'r ddwy felin ar ochr ogleddol Afon Llyfnwy, ac mae'r ddau adeilad yn dal i sefyll, er eu bod wedi eu hailadeiladu'n sylweddol. Mae'n debyg fod Ffatri Bryn erbyn 1900 wedi cymryd adeiladau Gwaith Dorothea drosodd. [1]
Mae'n debyg fod y ffatri wedi ei henwi ar ôl fferm Bryn Castell gerllaw.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ http://www.coflein.gov.uk/en/site/411187/details/bryn-woollen-factorypenybont-factory Comisiwn Henebion Cymru, gwefan Coflein