Robert Roberts, gweinidog Capel Uchaf

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:47, 20 Ionawr 2018 gan Ffrind Eban (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Robert Roberts (1762 - 1802), pregethwr a gweinidog gyda'r Methodistiaid Calfinaidd

Ganed Robert Roberts ar 12 Medi 1762 yn Y Ffridd, Baladeulyn, yn fab i Robert Thomas a Catherine Jones. Yn fachgen ifanc aeth i weithio i Chwarel y Cilgwyn, un o'r mán chwareli llechi a oedd yn dechrau cael eu hagor yn Nyffryn Nantlle bryd hynny. Nid oedd yn rhoi llawer o bwys ar faterion ysbrydol a chrefyddol yn ei flynyddoedd cynnar, ond yn un ar bymtheg oed aeth ei frawd John (John Roberts, Llangwm yn ddiweddarach) ag ef i wrando ar un o hoelion wyth y cyfnod, David Jones, Llan-gan, yn pregethu ym Mrynrodyn. Cafodd yr oedfa honno ddylanwad mawr arno ac yn fuan wedyn gadawodd y chwarel ac aeth i weini ar ffermydd. Bu yng Nghefn Pencoed yn Eifionydd i ddechrau ac yna symudodd i Goed-cae-du, cartref pregethwr nodedig arall, Richard Jones 'Y Wern'. Ond yn fuan wedyn cafodd Robert Roberts salwch difrifol, sef ymosodiad enbyd o'r crudcymalau, a wnaeth ei adael yn llesg a gwael weddill ei oes. Ni allai barhau á gwaith caled gwas ffarm ac aeth am gyfnod byr i ysgol a gedwid gan Evan Richardson ym Mrynengan, a oedd yn gartref i un o achosion Methodistaidd cynharaf Llyn ac Eifionydd. Pan ddaeth diwygiad grymus i'r ardal honno teimlodd Robert alwad i ddechrau pregethu a bu c