Ffynnon Bren

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:33, 20 Mawrth 2023 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ffynnon ar lethr gogleddol Garn Ganol (copa canol) yr Eifl yw Ffynnon Bren.

Mae'n weddol isel i lawr ar y llethr, dipyn uwchlaw Craig y Cwm, gyda llwybr yn mynd heibio iddi. Mae'r ffynnon o fewn cist o goed a llechi wedi'u powltio wrth ei gilydd ac roedd caead pren arni y tro diwethaf y bûm yno rai blynyddoedd yn ôl er mwyn cadw'r dŵr yn lân. Defnyddid dŵr o'r Ffynnon Bren yn Chwarel yr Eifl, sydd yn bur agos, ac roedd trigolion Trefor a'r cyffiniau yn aml yn torri eu syched yn y ffynnon pan fyddent yn cyrchu i'r Eifl ganol haf i hel llus. Mae'n ddŵr clir, eithriadol oer sy'n tarddu o grombil y mynydd ac yn hyfryd ei flas, a phur debyg o ran ei ansawdd i ddŵr Ffynnon Aelhaearn.