Thomas Hanson

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:24, 27 Chwefror 2023 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Thomas Hanson yn ficer Llanllyfni rhwng 1658 a 1660. Roedd hyn yn ystod cyfnod Cromwell a'r drefn Biwritanaidd. Bu offeiriaid nad oeddynt yn fodlon derbyn athrawiaeth y gyfundrefn Biwritanaidd yn cael eu symud o'i plwyfi, ac roedd hyn yn wir am Michael Evans, y ficer yn Llanllyfni ar ddechrau'r degawd.[1] Serch hyn, nid oes sôn am offeiriad arall yn Llanllyfni tan 1658 pan benodwyd Thomas Hanson. Ym 1660, fodd bynnag, collodd y Piwritaniaid eu grym a daeth yr hen drefn eglwysig yn ôl. Collodd ficeriaid nad oeddynt yn fodlon derbyn y newid hwn eu lle, ac roedd Thomas Hanson yn un ohonynt.[2]

Mae'n bosibl nad oedd o'n mynd yn dawel, gan fod achos yn y Llys Chwarter yn nechrau 1660, oherwydd (meddid) yr oedd wedi tyngu llwon cableddus - sef, mae'n debyg, ddeud yr hyn oedd o'n credu am ail-sefydlu'r eglwys sefydledig.[3]

Ni wyddwn ni ddim amdano, o ble y daeth nac i ble yr aeth, ar wahân i'r ffeithiau uchod. Nid yw'r enw'n ymddangos yn enw lleol, er bod teulu Hanson yn ardal Wrddymbre, Sir y Fflint. Fe'i dilynwyd gan Rowland Lloyd, MA, a gyflwynwyd i'r plwyf 13 Chwefror 1661.[4]

Cyfeiriadau

  1. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor during Three Centuries, (Cardiff, 1929), t.160
  2. Thomas Richards, "Religious Developments in Wales, 1654-1662 (Llundain, 1923), tt.21, 141
  3. Archifdy Caernarfon, Papurau'r Llys Chwarter, XQS/1660/2-4
  4. Arthur Ivor Pryce, The Diocese of Bangor during Three Centuries, (Cardiff, 1929), t.2