Band Uwchllifon
Roedd Band Uwchllifon yn fand o bentref Carmel. Cafodd ei enw, mae'n debyg, oherwydd mai gwasanaethu gweithgareddau Cyfrinfa Uwchllifon o'r Odyddion o Garmel (cymdeithas gyfeillgar leol) oedd y rheswm dros ei sefydlu. Byrhoedlog oedd y band, fodd bynnag, a'r unig gofnod sydd wedi dod i'r amlwg oedd iddo ddifyrru plant ac oedolion Ysgol Sul Capel Carmel (MC) ym 1879.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ Geraint Jones, Cyrn y Diafol, (Caernarfon, 2004), tt.48-9