Seindorf Arian Dyffryn Nantlle
Sefydlwyd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle ym 1865 o dan yr enw Band Penyrorsedd, ond yn fuan daeth i gael ei alw'n "Band Nantlle"". Ym 1894 chwaraeodd Band Nantlle o flaen Tywysog a Thywysoges Cymru yn ystod eu hymweliad i'r Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaernarfon. Am flynyddoedd maith wedi hynny, fe'i hadwaeid fel "Seindorf Arian Frenhinol Dyffryn Nantlle'".
Roedd y band, fel rhai o fandiau eraill Dyffryn Nantlle yn perfformio mewn pob math o gyfarfodydd a chyngherddau yn y dyffryn a thu hwnt, ac yn ymgeisio mewn eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Teithiodd y band mor bell a De Cymru sawl gwaith i gystadlu yn erbyn bandiau gorau'r genedl.
Y mae o'n arferiad ers pan ydw i'n cofio yn y Dyffryn, i'r band (Nantlle Vale Silver Band), ddwad i orymdeithio a chanu bob nos Calan, a mawr fydd yr helynt gan fawr a bach wrth ei gwrando. Eleni, buont yn canu mewn Watchnight ym Mhenygroes, a gynhelid gan y Wesleaid, ac wedi hynny, can- asant hyd y strydoedd, ac amryw o las- lancia yn cario ffagla, iddyn nhw weld y miwsig. Mi rodd hi fel canol dydd ym Mhenygroes a'r Nant nos Wener, a hogia Nahlla yn croesawu'r flwyddyn newydd gan i bedyddio hi efo miwsig swynol, nes oedd hen greigiau'r Silyn 'ma a gwaelod y Nant yn diaspedain. Ymhen arall y Dyffryn, 'roedd Seindorf Deulyn a'u holl egni yn gwneud yr un peth. Pwy fel hogia'r chwareli am fiwsig mewn rhyw ffurf neu gilydd, ynte ?
Roedd yn un o'r bandiau pres cyntaf i gael ystafell bwrpasol wedi ei adeiladu yn arbennig ar eu cyfer, a hynny yn Nhal-y-sarn. Diddorol yw sylwi ar ffurf yr adeilad: er ei fod wedi ei godi'n bwrpasol at ddefnydd band, mae'n ymdebygu i gapel. Yn Nhalysarn mae'r band yn ymarfer hyd heddiw.[1]
Erbyn heddiw, nid oes ond y band hwn a Seindorf Trefor ar ól o nifer helaeth o fandiau pres a fu wrthi yn ystod y 19g.
{[eginyn}}