William Dafydd
William Dafydd oedd y pregethwr cyntaf a godwyd ymysg Methodistiaid cynnar Llanllyfni. Dichon mai William Williams o'r Buarthau yn Llanllyfni oedd y cyntaf i gael ei gyffwrdd gan bregethu'r Methodistiaid, a hynny ym 1758. Yn fuan wedyn, aeth â ffrind agos iddo, William Dafydd, i wrando ar y pregethu yn y Berth-ddu Bach, plwyf Clynnog Fawr. Yn y man, cychwynnodd William Dafydd ei hun bregethu ac felly y parhaodd bron hyd ei farwolaeth ar ddiwrnod cyntaf 1802 wedi salwch hir. Pregethwr uniongred a dibynadwy ydoedd yn ôl ei gyfoeswyr, ac yn ddyn "call, addfwyn, enillgar, cymeradwy." Yn un o sylfaenwyr Capel Salem (MC), Llanllyfni ym 1766, roedd hefyd yn un o sylfaenwyr yr Ysgol Sul a gychwynwyd yn y capel ym 1796.[1]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma
Cyfeiriadau
- ↑ W. Hobley, ‘’Hanes Methodistiaeth Arfon’’, Cyf. I (Caernarfon, 1910), tt.109-15