Chwarel Biggs

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:36, 19 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Biggs yn un or chwareli gorau Dyffryn Nantlle o ran safon y llechi a godwyd yno, oherwydd ei bod yn dwll ar wythïen Cilgwyn neu'r "Fein Goch". Enw arall ar y chwarel oedd Chwarel Newydd (New Quarry). Erbyn 1858, roedd hi tua hanner can llath o hyd a phymtheg i ugain llath o led, ac yn weddol ddwfn ac felly roedd angen codi'r llechi i lefel y dramffodd gyda pheiriannau. Dyma, mae'n debyg, oedd y brif gloddfa pan werthwyd tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll mawr Chwarel Tal-y-sarn.

Mae'n bosibl bod y chwarel hon wedi ei henwi yn ôl enw un Capten Biggs, y sonnir amdano mewn llythyr ym 1851 - byddai'r teitl "capten" yn cyfeirio at reolwr cloddfa y pryd hynny.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. Mae copi o'r prosbectws ar we, ac mae'n rhoi lmanylion am y chwarel ym 1859:[1].
  2. Archifdy Glynllifon, XD2/23499