Chwarel Onnen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 15:12, 19 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Chwarel Onnen (neu Onen) wedi cael ei henw o hen fwthyn a safai ar y llethrau o dan Mynydd Cilgwyn, lled cae o Dŷ'n-y-fawnog. Agorwyd tair cloddfa fach ar dir fferm Tal-y-sarn ond gyda'r amser aeth y tri thwll yn un chwarel fwy. Erbyn 1858, roedd y gwaelod wedi llenwi gyda dŵr ac roedd y chwarel angen ei chlirio, ond ar ôl gwneud hynny, roedd modd gosod pumtheg bargen yno. Meddid fod y llechi o ansawdd da. Fe werthwyd y cloddfeydd bychain hyn gyda gweddill tir fferm Tal-y-sarn ym 1827 fel tir Cwmni Llechi Tal-y-sarn.[1] Yn y man, aeth y twll yn rhan o dwll Chwarel Tal-y-sarn ei hun, ac yn wir erbyn diwedd y ganrif, roedd y chwarel wedi llyncu bwthyn Onnen yn ogystal â'r chwarel a enwyd ar ei ôl.[2]

Cyfeiriadau

  1. Thomas Farries, A Guide to Drawing Bills of Costs in nearly every branch of legal practice(Llundain, 1860), t.4. Mae copi o'r prosbectws ar we, ac mae'n rhoi lmanylion am y chwarel ym 1859:[1].
  2. Mapiau Ordnans 1889 a 1901