Tafarn Commercial, Tal-y-sarn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:41, 14 Tachwedd 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Arferai'r Tafarn Commercial (neu'r "Commercial Inn") sefyll nid nepell o Blas Tal-y-sarn ar yr hyn sydd bellach yn llwybr ond a oedd gynt y briffordd rhwng pentrefi Tal-y-sarn a Nantlle. Dargyfeiriwyd y lôn ger y dafarn tua 1882 a dichon mai tua'r adeg honno y'i caewyd am y tro olaf. Ym 1841, "Tal-y-sarn Cottage" oedd enw'r adeilad, ond erbyn 1851, roedd hi wedi ei henw'n "Commercial Hotel" er mai tafarn ddi-alcohol oedd hi. Rhaid bod y lle'n weddol barchus gan fod George Byford, perchennog un o'r chwareli llechi, yn lletya yno. Hugh Williams oedd y tafarnwr, ac erbyn 1861 fe'i galwyd yn Commercial Inn. Arferai Hugh Williams, a anwyd tua 1815, gadew'r dafarn yr un pryd a chyflawni gwaith fel chwarelwr. Gŵr o'r ardal ydoedd, ond daeth ei wraig o Riwabon. Erbyn 1881, mae'n debyg i'r dafarn werthu diod meddwol, ac un o wyresau Hugh Williams, Margaret Davies, a oedd yn byw yn y dafarn, oedd yn gweithio y tu ôl i'r bar. Roedd yn 27 oed ym 1881 a hithau fel ei nain wedi ei geni yn Rhiwabon.[1]

Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Llandwrog, 1841-81