John Jones (Ioan Eifion)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:53, 3 Tachwedd 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bardd a chrefyddwr gyda'r Bedyddwyr oedd John Jones (Ioan Eifion) 1839-1909.

Bu'n byw ym Mhen-y-groes a gweithiai fel gof o ran ei grefft. Roedd yn aelod amlwg ac yn bregethwr cynorthwyol gyda'r Bedyddwyr ac roedd yn selog hefyd o blaid dirwest. Cyfansoddodd gryn dipyn o farddoniaeth ond yn ôl Cybi ni ddaeth i amlygrwydd neilltuol fel bardd ac ni fu'n cystadlu am brif wobrau fel coronau a chadeiriau. Fodd bynnag, cyhoeddodd lyfryn o ffrwyth ei awen dan y teitl Y Blaguryn. Dywed Cybi ymhellach iddo ef weld peth o'i waith anghyhoeddedig mewn llawysgrifau a gedwid gan John Williams, Eirianlys, Tal-y-sarn. Cyfansoddodd Ioan Eifion hefyd gywydd coffa i Fanny Jones, gwraig y pregethwr nodedig John Jones, Tal-y-sarn, a cheir dyfyniadau ohono yn y cofiant i Fanny Jones a ysgrifennwyd gan Llew Owain - sy'n enghraifft brin o gofiant i wraig o'r 19g. Un arall o gynhyrchion Ioan Eifion oedd llyfr bach o'r enw Gemau Doethineb, sy'n cynnwys detholiad o ddarnau barddoniaeth a rhyddiaith moeswersol eu natur. [1]

Cyfeiriadau

1. Cybi, Beirdd Gwerin Eifionydd, (Pwllheli, 1914), tt.67-9.