Aelhaearn Sant

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:01, 20 Ionawr 2018 gan Mwngrel o Feirion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Chwedl Aelhaearn Sant

Mae'r stori am y gŵr yma yn chael ei enw yn sicr yn dod o fyd chwedloniaeth. Byddai Beuno Sant yn aml iawn yn crwydro ar hyd y glannau o'i glas yng Nghlynnog Fawr i'r de-orllewini ac at fynyddoedd Yr Eifl





i'r meirw, ond er ei holl ymdrechion ni lwyddodd y tro hwn. Sylwodd nad oedd y corff yn gyfan a bod un o'r aeliau'r gwas ar goll. Chwiliwyd drachefn am yr asgwrn hwn ond ni chafwyd hyd iddo. Cafodd Beuno syniad. Gwelodd ffurel haearn ar waelod ffon un o'r mynachod. Fe'i tynnodd, a'i churo â charreg i'w chael y siâp iawn. Gosododd yr "ael o'r haearn" yn ofalus ar wyneb y corff a gweddio'n daerach fyth. Daeth y dyn yn ei ôl yn fyw, ac fe'i galwyd yn Aelhaearn. Cododd eglwys yno wrth droed yr Eifl. A phan fydd y gwynt yn chwythu o gyfeiriad Clynnog gallai Aelhaearn glywed tinc cloch eglwys Beuno a'i atgoffa sut y cafodd ei enw.

Cyfeiriadau

  1. Ellyll Hyll a Ballu Mary Jones Gwasg Utgorn Cymru 2008
  2. Straeon Arfon