Pen-y-groes

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:59, 20 Ionawr 2018 gan Gwenhwyfar% (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hen Atgofion am Ben-y-groes gan Owen Owen, Cartrefle, Tanrallt.

I gael cip ar bentref Pen-y-groes pan oeddwn yn hogyn, awn am dro at:

Yr Hen Dyrpaig, Tolldy ar y brif ffordd (Tal-y-sarn), yn cael ei gadw gan hen wr a adwaenwn wrth yr enw Sion Dafydd y Tyrpaig. Gyferbhyn a'r porth yr oedd dau gilbost mawr o lechfaen, a giat fawr led y ffordd, ac oddeutu iddynt droell i'r person unigol fynd trwodd. Telir toll ar bob march a cheffyl drol ai trwodd i godi arian i drwsio y ffordd.

Adeiladwyd yn 1867 dy tafarn gan J. Thomas y Park, a galwyd efo "Prince Llewelyn".