Topper

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:51, 24 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Band Cymreig o Ben-y-groes, oedd Topper. Roedd eu dylanwadau cerddorol yn cynnwys Gorky's Zygotic Mynci a Catatonia.

Ym 1992 ffurfiwyd y band Paladr gan Peter Alan Richardson a'r ddau frawd Dyfrig ac Iwan Evans.

Ym 1995 rhyddhawyd eu cân gyntaf, sef ‘Dwi'm yn gwbod. Pam?’, gan gwmni Ankst ar ddisg gan nifer o gantorion. Erbyn 1996, roedd y band wedi newid ei enw i Topper a'r flwyddyn ganlynol

rhyddhawyd Arch Noa, EP cyntaf y band, a’r albwm Something to Tell Her, y ddwy ddisg ar label Ankst. Yn ogystal â hyn ymddangosodd y band yn fyw ar raglen John Peel a chychwyn ar eu taith cyntaf i hywryddo'r albwm Something To Tell Her yn cefnogi Catatonia, a gydag aelod newydd, Gwion 'Gysglyd' Morus, ar yr allweddellau. Ym 1998 symudodd y grŵp i label Kooky am gyfnod byr a rhyddhau'r sengl "Cwpan Mewn Dŵr". Yna ar gychwyn 1999 rhyddhawyd albwm 'mini' arall, Non Compos Mentis, y tro yma ar eu label eu hunain, Bedlam.

Recordiodd y grŵp yr albwm Dolur Gwddw yn stiwdio Bryn Derwen gyda'r cynhyrchydd o fri David Wrench. Hon oedd albwm mwyaf uchelgeisiol y grwp, a ddaeth yr albwm allan ar label Crai ar ddiwedd 2000. I helpu gyda'r sŵn llawnach oedd ar y record, ymunodd aelod arall (a'r aelod olaf), sef y gitarydd o Fethesda, Sion 'The King' Glyn.

Gadawodd Peter Richardson y band yn 2001 i ymuno â Gorky’s Zygotic Mynci, ac yn fuan wedyn daeth Topper i ben.

Rhyddhawyd y casgliad "Y Goreuon O'r Gwaethaf "ar label Rasal yn 2005.[1]

Cyfeiriadau

Catgeori:Cerddoriaeth

  1. Proffil y band gan BBC Cymru, [1]; Erthygl Wicipedia am Topper [2], cyrchwyd 24.10.2022