G. Geraint Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:15, 19 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Fe'i ganed y bardd G. Geraint Owen 1858-ar ôl 1888) yng Nghlynnog tua 1858. Mae'n bosibl mai mab Griffith Owen, Tŷ Gwyn, Tai'n Lôn ydoedd er na ellir bod yn sicr o hyn; yr un modd, gall mai fo yw'r William (neu Gwilym) G. Owen a weithiai fel gwas ar fferm yr Ynys, ym mhlwyf Clynnog ym 1871 yn 13 oed ond mae'n debycach mai William G. Owen a aeth yn weinidog y Bedyddwyr yng Nghorwen a Rhuthun yw hwnnw. Erbyn 1881, roedd yn gweithio fel chwarelwr llechi, gan fyw yn Nhŷ Capel, Carmel fel lodjer, lle nodir ei enw fel Griffith G. Owen. Ni chafwyd hyd iddo ar gofnod y Cyfrifiad ym 1891.[1]

Fe'i rhestrwyd yn seithfed o ran ragoriaeth allan o 18 bardd Dyffryn Nantlle ym 1888.[2] Ni lwyddwyd i ddod o hyd i fwy nag un o'i gerddi, telyneg ddigon swynol a argraffwyd yn Athrofa'r Plant, cylchgrawn byrhoedlog, ym 1881.[3] Dyma'r pennill cyntaf:

Yng nghanol myrdd o swynion
Daeth Mai a'i hir-ddydd braf,
Gan arwain gydag urddas
I'w orsedd dlos, yr Haf;
Gwahodda'i wên garedig
Drigolion tref a gwlad
I ddyfod o'u trigfannau
I wledda ar fwynhad.

Roedd ymysg beirdd gwlad Dyffryn Nantlle yn y 1880au. Er enghraiff, ar achlysur anrhegu y Parch. John M. Jones fis Mai 1884, cafwyd "anerchiadau barddonol" gan William John Davies (Glan Llyfnwy) ac Evan Jones (Ieuan Nebo) yn Nebo.[4]

Er chwilio mewn amryw o fynegeiau, anodd oedd dod o hyd i fanylion am y bardd hwn, ac nid oes sicrwydd o gwbl ynglŷn â'i dynged ar ôl 1888. Efallai iddo farw'n ifanc neu iddo symud o'r dyffryn. Nid yw'r chwilota ddim haws gan nad oedd o'n arddel ffugenw barddol unigryw hyd y gwyddys, ac nid oes sicrwydd hyd yn oed ai enw mabwysiedig oedd Geraint, nac ychwaith am beth y safai G gyntaf ei enw llawn., sef Griffith neu o bosibl William (Gwilym).

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiadau plwyf Clynnog 1861-71; Cyfrifiad plwyf Llandwrog, 1881-91
  2. Y Genedl Gymreig, 8.2.1888, t.7
  3. Athrofa y Plant, rhif 2, Mai 1881, t.23
  4. Y Genedl Gymreig, 14.5.1884, t.8