Evan Jones (Ieuan Nebo)

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:24, 3 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Evan Jones (Ieuan Nebo) (marw 1910) yn flaenor dylanwadol yng Nghapel Nebo, ym mhentref Nebo. Dyn trymaf yr eglwys yn ddiamheuol, yr oedd yn cael ei gydnabod fel llenor, bardd a cherddor, ac yn ddiwinydd o radd uchel, ac yn llawn o wasanaeth bob amser. Bu'n arweinydd y canu yn y capel am gyfnod maith, ac ym 1900 codwyd ef yn flaenor. Roedd yn fedrus fel siaradwr cyhoeddus a byddai'n arwain seiat yn gwbl naturiol, a hynny gyda’r ysbryd gorau bob amser, Roedd hefyd yn weithgar iawn gyda'r ysgol Sul. Dyn efengylaidd iawn ydoedd Evan Jones ac yn weddïwr mawr.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Gwefan Dyffryn Nantlle, [1], cyrchwyd 16.2.2020