Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:24, 12 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’. Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.

Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn:

TAFOLIAD BEIRDD DYFFRYN NANTLLE
SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.

Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffenodd y llythyrwr ei lythyr fel a ganlyn:

Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.

Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon.

*Glanllyfnwy 
*Hywel Tudur
  • J. Machreth Rees
  • Parch D. Jones
  • Howel Cefni
  • Anant
  • G. (Geraint) Owen
  • Mawrthfab
  • Maldwynog
  • Trebor Aled
  • Aled Ddu
  • Croesfryn
  • H. H. (Gwelltyn)
  • Ioan ap Ioan
  • Owen Meirig
  • Ioan Eifion
  • Ieuan Nebo
  • Iolo Glan Twrog

Gellir tybio y byddai rhestr mor fanwl - a dadleuol efallai - yn esgor ar ohebiaeth danbaid yn rhifynnau canlynol y papur newydd, ond hyd y gellir darganfod, nid oedd unrhyw ymateb yn y rhifynnau nesaf.

Cyfeiriadau