Beirdd gwlad Dyffryn Nantlle

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:51, 12 Hydref 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Argraffwyd rhestr o ddeunaw o ‘’’feirdd Dyffryn Nantlle’’’ yn rhifyn 8 Chwefror 1888 o’r ‘’Genedl Gymreig’’. Ceisiwyd eu rhoi yn nhrefn rhagoriaeth, ond wrth gwrs, gan mai ar ffurf llythyr at y golygydd yr ymddangosodd y rhestr, a hynny gan ohebydd anhysbys, sef “Y Pwyswr”. Serch hynny, a beth bynnag am y ffordd y sgoriodd Y Pwyswr y beirdd unigol, mae’n rhoi rhestr hynod o ddefnyddiol o’r prif feirdd gwlad Dyffryn Nantlle oedd yn eu bri ychydig cyn diwedd y 19g.

Dyma sut mae llythyr Y Pwyswr yn cychwyn:

SYR,-Mewn trefn i ni allu gwneyd chwareu teg â phob un ohonynt, yr ydym yn nodi eu graddau mewn pedwar peth gwahanol, gan eu bod oll yn rhagori yn y naill neu'r llall o'r pethau hyn. Y pedwar peth hynny yw - Awen, Barn, Dysg, a Chynghanedd. Cymerwn ugain yn safon gyda phob un ohonynt; yna cyfrifwn yr oll gyda'u gilydd, heb adnabod neb ohonynt yn ôl y cnawd.

Ar ôl rhestru’r beirdd a’u sgoriau – yn ôl ei farn o – gorffennir y llythyr fel a ganlyn:

Gyda'ch caniatâd, Mr Gol., yr ydym yn bwriadu tafoli cerddorion y dyffryn y tro nesaf; ac yna y llenorion a'i areithwyr. Y PWYSWR.

Gwelir yn y ddelwedd a atgynhyrchir yma'r sgoriau unigol. Mae erthyglau am y beirdd unigol a restrir isod i’w cael - neu mi fyddant ar gael - ar y wefan hon. Glanllyfnwy Hywel Tudur J. Machreth Rees Parch D. Jones Howel Cefni Anant G. (Geraint) Owen Mawrthfab Maldwynog Trebor Aled Aled Ddu Croesfryn H. H. (Gwelltyn) loan Ap loan Owen Meirig loan Eifion Ieuan Nebo Iolo Glan Twrog

Cyfeiriadau