Gwaith brics Trefor

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:15, 10 Hydref 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Am ran helaeth o'r 20g bu gwaith brics yn Nhrefor, yn gysylltiedig â Chwarel yr Eifl.

Sefydlwyd y gwaith brics, a oedd ar safle gerllaw swyddfa'r chwarel - yr Offis i bobl Trefor - a dros y ffordd â rhes dai Trem y Môr (Sea View yn wreiddiol), gan gwmni'r chwarel a bu'n cyflogi cryn nifer o weithwyr am gyfnod sylweddol. Gan fod cymaint o wastraff ar gael gerllaw o Chwarel yr Eifl, y gellid ei falu'n llwch a'i gymysgu â sment i gynhyrchu brics, roedd digon o ddeunydd crai i'w gael heb orfod talu amdano na'i gludo ymhell. Brics adeiladu llwyd a gynhyrchid gan mwyaf, ond yn ystod cyfnod diweddarach y gwaith brics dechreuwyd cynhyrchu rhai o wahanol liwiau a hefyd ddeunyddiau fel pyst ffensio concrid a lintelydd. Lle digon afiach i weithio ynddo oedd y gwaith brics gyda llwch trwchus ymhobman ac yn sicr ni fyddai'n cydymffurfio â gofynion presennol iechyd a diogelwch. Cyn ei foderneiddio roedd dau beiriant cynhyrchu brics yno, gyda dau o weithwyr wrth bob un ar eu tro yn codi'r brics gwlybion fel roeddent yn ymddangos o grombil y peiriannau a'u gosod ar fyrddau pwrpasol ar goesau. Yna ar ôl i 500 o frics gael eu gosod ar y bwrdd byddai'n cael ei symud oddi yno gan beiriant forklift a'i gludo gerllaw i'r brics sychu a deuid â bwrdd gwag newydd i gymryd ei le - gwaith diflas ac undonnog a dweud y lleiaf! Yn dibynnu ar y galw am frics ar y pryd byddai miloedd lawer ohonynt wedi eu stacio ar y safle ar brydiau. Fe barhaodd y gwaith brics i weithredu am nifer o flynyddoedd ar ôl i Chwarel yr Eifl gau ym 1971. Bu ym meddiant gwahanol berchenogion yn ystod y cyfnod hwnnw a chafwyd gwared ar yr hen beiriannau cynhyrchu gwreiddiol a gosodwyd peiriannau mwy modern ac awtomatig, a oedd wedi eu cartrefu o fewn sied fawr newydd, a bu hynny'n fodd i liniaru peth ar y llwch. Yr olaf i gynhyrchu brics yno oedd dyn busnes o'r enw Keith Carrier o ardal Bae Colwyn, ond daeth y gwaith i ben at ddiwedd y 1990au.

Yn rhan isaf safle'r gwaith brics bu gwaith tarmacadam hefyd yn gweithredu am flynyddoedd cyn cau'r chwarel ym 1971. Cludid cyflenwadau o fetlin o'r chwarel i'r gwaith hwn lle byddent yn cael eu cymysgu â thar ar gyfer wynebu ffyrdd. Byddai aroglau tar cryf o gwmpas y lle'n gyson ac aeth ar dân ar o leiaf un achlysur. Gyda chau Chwarel yr Eifl daeth y gwaith tar i ben hefyd yr un pryd ac yn ystod y blynyddoedd dilynol dymchwelwyd yr holl beirianwaith fel haearn sgrap.

Erbyn hyn mae safle'r gwaith brics mewn cyflwr enbydus ac mae'n drueni ei weld.