Cofgolofn Ioan Arfon

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:31, 13 Medi 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Cofgolofn Ioan Arfon

Wrth deithio ar hyd yr hen lon bost rhwng Dolydd a’r Groeslon mae mynwent anenwadol ardal Llandwrog i’w gweld ar y llaw dde. Saif ar ben Bryn'rodyn cyferbyn i safle'r capel o’r un enw sydd bellach wedi ei ddymchwel. Yma mae cofgolofn amlwg ym mlaen y fynwent sef yr un ar fedd John Owen Griffith (1828-1881). Ei enw barddol oedd Ioan Arfon.[1]

Ganwyd John Owen Griffith yn Y Waunfawr yn fab i chwarelwr ac wedi cyfnod byr o addysg ffurfiol dilynodd ei dad i weithio mewn chwareli llechi lleol. Wedi iddo priodi derbyniodd ychydig o addysg bellach a gyda’i wraig Ann agorodd siop groser yng Nghaernarfon; ganwyd chwech o blant iddynt gan gynnwys yr awdur, bardd a chyfreithiwr R.A.Griffith (Elphin).[2]

Er ei fod yn fardd brwd a medrus ei hun mae’n debyg mai fel beirniad lleol a chenedlaethol y daeth Griffith yn fwyaf adnabyddus; daeth ei siop yn ganolfan llenyddol i feirdd, awduron a golygyddion amlwg ei gyfnod. Fel aelod o ‘Gorsedd y Beirdd’ roedd Ioan Arfon yn ‘feistr trwyadl ar y cynganeddion’ a chynigodd cyngor parod ac arweiniad i lu o feirdd ifanc.[3]

Ar wahân i’w weithgarwch llenyddol roedd gan Griffith hefyd ddiddordeb mewn Daeareg yn deillio o’i ddyddiau yn gweithio yn y chwareli a chyhoeddodd draethawd ar y pwnc. Hefyd cyfrannodd at amryw fudiadau dyngarol gan gynnwys ei aelodaeth o bwyllgor cyntaf Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru ym 1874.[4]

Bu farw yn gymharol ifanc, deuddydd yn unig wedi ei gyfaill Syr Hugh Owen. Yn fuan wedi ei gladdu sefydlwyd pwyllgor gyda’r bwriad o godi cofgolofn i un a gyfrannodd gymaint i’w fro a’i genedl. Cofnodir mai swm y tanysgrifiadau a dderbyniwyd oedd £86 14 swllt a 5 ceiniog (cyfwerth dros £11,000 yn 2022). Talwyd £84 am y gofgolofn a wnaed gan Gwmni Hugh Jones o Gaernarfon a’i dadorchuddio mewn seremoni arbennig ar 15fed Rhagfyr 1883.[5]

Mae darn isaf y golofn wedi ei wneud ag ithfaen Môn, a'r gweddill â farmor Eidalaidd. Ar y darn uchaf ohoni – yr obelisg - mae nôd cyfrin Gorsedd y Beirdd ac wedi ei gerfio oddi tanodd mae'r geiriau, ‘Fy iaith, fy ngwlad, fy nghenedl’. Mae cof-lun (medaliwn) o'r bardd uwchben y geiriau:- "Er cof am John Owen Griffith (Ioan Arfon). Bu farw Tachwedd 22ain, 1881, yn 53 mlwydd oed."

O dan yr uchod y mae cerdd o eiddo Richard Davies (Tafolog)[6]:

 Wele drist wyddfa "gwlad yr Eisteddfod"
 'Roes edmygedd, uwch du fedd, yn dafod
 I ddywed i seraph o fardd disorod,
 A beirniad, dewi obry'n y tywod
 Wladgar Ioan, glân ei glod, - eu dagrau
 Gysegra oesau i'w gwsg oer isod.

Ar yr ochr ddeheuol i'r golofn ceir y pennill isod o eiddo Ioan Arfon ei hun:

 Dymunwn gael cwympo ar unwaith a'r dail
 A gwywo'r un amser a'r rhosyn;
 Nid oes i fy nheimlad un adeg yn ail
 I ddirwyn yr einioes i derfyn.

Dadorchuddiwyd y gofgolofn gan David Griffith (Clwydfardd)[7], nad oedd yn perthyn i’r bardd, yn gweithredu fel yr Archdderwydd Gorsedd y Beirdd ar y pryd.

Cyfeiriadau

  1. Y Bywgraffiadur Ar-lein [1]
  2. Y Bywgraffiadur Ar-lein [2]
  3. Y Genedl Gymreig, 1 Rhagfyr 1881 [3]
  4. Erthygl Wicipedia ar yr Undeb, [4]
  5. Y Genedl Gymreig 19 Rhagfyr 1883, t.7
  6. Y Bywgraffiadur Ar-lein [5]
  7. Y Bywgraffiadur Ar-lein [6]