Gwesty Victoria

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:33, 16 Awst 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Roedd Gwesty Victoria (neu, ar dafod leferydd, "Y Fic") yn un o'r ddwy dafarn olaf i fod yn agored ym Mhen-y-groes nes iddi gau yn 2010. Mae'r adeilad yn goroesi, yn sefyll ar gornel Stryd yr Wyddfa a'r Stryd Fawr mewn man amlwg. Ar ôl nifer o flynyddoedd pan oedd y ffenestri wedi'u byrddio a'r adeilad yn wag, mae bellach yn y broses o gael ei droi'n dŷ annedd.

Arferai Gwesty Victoria fod yn un o adeiladau pwysicaf yn y pentref. Ym 1881, William Chambers, gŵr 43 oed o Roscolyn, oedd y tafarnwr. Roedd ei wraig Catehrine 13 mlynedd yn iau nag ef ac yn hanu o Ben-y-groes. Roedd y busnes yn digon llewyrchus iddynt gadw gwas cyffredinol a choginwraig, y ddau'n byw yn y gwesty - heb sôn am rai eraill oedd, o bosibl, yn cael eu cyflogi ond yn byw mewn mannau eraill.[1]

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Cyfrifiad Pen-y-groes, 1881