Eric Jones
Eric Jones oedd olynydd J.R.Morris yn y Siop Lyfrau Gymraeg enwog yn y Bont Bridd, Caernarfon. 'Llenyddiaeth, Cerddoriaeth, Drama' oedd y geiriau oedd yn ysgrifenedig uwchben ei drws.
Roedd Eric Jones yn byw ym mhentref Pontlyfni. Byddai'n dal Moto Coch hanner awr wedi wyth bob bore i fynd i'w waith, ond byddai'n aml yn hwyr yn cyrraedd y bont. Ond doedd dim raid iddo bryderu. Byddai'r Moto Coch yn gofalu sefyll yn ei unfan hyd nes y byddai Eric Jones wedi cyrraedd. Roedd yn genedlaetholwr hollol ddigymrodedd.
Bu farw ym 1982.
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma