Edward Haycock

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 13:04, 2 Gorffennaf 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio
Glynllifon, yn ei ffurf wreiddiol fel y'i hadeiladwyd gan Edwrad Haycock

Edward Haycock (1790-1870) oedd y pensaer a gyflogwyd gan Spencer Bulkeley Wynn, 3ydd Arglwydd Newborough i ddylunio'r gwaith ailadeiladu ac ail-greu Plas Glynllifon ar ôl y tân trychinebus ym 1836 a adawodd y plasty'n gragen. Mae lle i gredu (o lythyrau Newborough a Haycock at ei gilydd) fod Newborough wedi chwarae rhan eithaf rhagweithiol yn y dyluniadau, gyda Haycock yn trosi syniadau a bras-ddyluniadau'r cleient yn gynlluniau pensaernïol cadarn.

Glynllifon oedd unig waith Haycock yn Sir Gaernarfon ond ef oedd pensaer Neuadd Sir Feirionnydd (yr hen lys) yn Nolgellau, a ef hefyd ddyluniodd dref newydd Aberaeron, ymysg llawer o brosiectau eraill.[1]

Cyfeiriadau

  1. Tudalen Wikipedia ar Edward Haycock Snr. [1]. Mae rhestr bur gyflawn o'i waith i'w gweld yno.