Eisteddfod Aelhaearn

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:22, 26 Mehefin 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Eisteddfod Gadeiriol Aelhaearn yn cael ei chynnal ers nifer o ddegawdau bellach. Fe'i cynhelir fel rheol ddiwedd mis Tachwedd. Am flynyddoedd fe'i cynhelid yng nghapel Y Babell ond, wedi i'r capel hwnnw gau, mae wedi cael ei chynnal yn ystod y blynyddoedd diwethaf yng Nghanolfan Y Babell (sef festri'r capel sydd wedi ei helaethu a'i throi'n ganolfan gymunedol). Ni chynhaliwyd eisteddfod yn 2020-2022 oherwydd y pandemig ond gobeithir ei gweld yn ailddechrau'n fuan.