Marian Elias Roberts
Marian Elias Roberts yw Ysgrifennydd gweithgar Canolfan Hanes Uwchgwyrfai ers ei sefydlu yn 2006 ac yn ogystal mae'n awdur ac yn un o bennaf hyrwyddwyr yr iaith Gymraeg a'r diwylliant Cymreig yn ei bro ac yn ehangach.
Magwyd Marian Elias yn ffermdy Hafod-y-wern ar y llethrau uwchlaw pentref Clynnog Fawr, yn un o bedwar o blant Morris a Deilwen Elias. (Hanai ei mam o'r Wern, Llanfrothen ac roedd ei thaid Thomas Richards yn englynwr o fri gyda'i englyn enwog i'r Ci Defaid yn gampwaith.) Ar ôl cael addysg gynradd yn ysgol Clynnog ac uwchradd yn Ysgol Sir Pen-y-groes aeth i Goleg y Brifysgol Abertawe, lle graddiodd yn y Gymraeg. Bu'n cyflawni swyddi gweinyddol i wahanol gyflogwyr, megis y BBC a Choleg Glannau Dyfrdwy, a bu hefyd yn hyfforddi myfyrwyr mewn medrau ysgrifenyddol a rheoli swyddfa.