Alun Ffred Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 08:49, 14 Mai 2020 gan Helfa (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Bu Alun Ffred Jones (ganed 1949 ym Mrynaman) yn aelod Cynulliad Cymru, 2003-2016, dros Arfon, ac yn Llywodraeth Cymru'n Un, fe wasanaethodd o 2008 fel y Gweinidog Treftadaeth. Cyn fynd i'r Cynulliad, roedd yn cynrychioli Llanllyfni ar y Cyngor Sir ac yn arweinydd y Cyngor.

Mae wedi byw yn Llanllyfni ers blynyddoedd lawer, er iddo gael plentyndod braidd yn symudol a'i dad yn weinidog. Mae'n frawd i'r gwleidydd a'r canwr Dafydd Iwan. Cyn ymroi'n llwyr i wleidyddiaeth bu'n athro Cymraeg ac yn newyddiadurwr gyda chwmni HTV, cyn datblygu gyrfa fel cynhyrchydd yn y byd teledu, ac yn gadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru. Fo oedd yn sylfaenydd Cwmni Nant ac yn gyfrifol am gynhyrchu ac yn rhannol (gyda Mei Jones) am sgriptio C'mon Midffild, cyfres comedi ymysg y goreuon yn y Gymraeg, a dynnodd hefyd ar hoffter Alun Ffred o'r gêm.[1]

Mae'n parhau i fod ynghlwm wrth y byd gwleidyddol, gan wasanaethu fel Cadeirydd Plaid Cymru.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Erthygl Wicipedia [1] cyrchwyd 15.5.2020