Gerallt Lloyd Owen

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 17:09, 13 Mehefin 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

'Roedd Gerallt Lloyd Owen (1944-2014) yn brifardd a hanai o Gefnddwysarn ym Meirionnydd. Roedd yn frawd i'r Prifardd a'r cyn-Archdderwydd Geraint Lloyd Owen (Geraint Llifon). Bu'n byw y rhan fwyaf o'i oes ym mhentref Llandwrog.

Er i'w gyfrol gyntaf, Ugain Oed a'i Ganiadau (Argraffty'r M.C., Caernarfon, 1966) gael ei gyhoeddi ym 1966, ni ddaeth yn ffigwr amlwg nes iddo gyhoeddi Cerddi'r Cywilydd ym 1972.[1]

Nodweddir ei farddoniaeth gan ymdeimlad cryf am Gymreictod] a phwyslais ar etifeddiaeth y Cymry a'r angen i'w hamddiffyn. Gwelir hyn yn arbennig o eglur mewn cerddi fel yr awdl] Cilmeri , am dranc Llywelyn ap Gruffudd, a'r gerdd Fy Ngwlad (Cerddi'r Cywilydd) am yr arwisgiad yng Nghaernarfon] ymn 1969 sy'n agor efo'r llinellau cofiadwy,

Wylit, wylit, Lywelyn,
Wylit waed pe gwelit hyn.
Ein calon gan estron ŵr,
Ein coron gan goncwerwr,
A gwerin o ffafrgarwyr
Llariaidd eu gwên lle'r oedd gwŷr.

Ond mae gan ei awen agwedd bersonol hefyd, yn ei gerddi am gyfeillion a pherthnasau, a'i gariad amlwg at ei fro. Mae'n medru bod yn ffraeth yn ogystal, er enghraifft yn ei gerdd Trafferth mewn siop (yn y gyfrol Cilmeri) am gael gwrthod talu â siec yn y Gymraeg yn siop Marks and Spencers, Llandudno, sy'n adleisio cerdd adnabyddus Dafydd ap Gwilym Trafferth mewn Tafarn.

Cyhoeddodd hunangofiant ym 1999 dan y teitl Fy Nghawl Fy Hun. Golygodd gylchgrawn y Coleg Normal (Y Normalydd), sawl cyfrol yn y gyfres Talwrn y Beirdd, a bu'n gyd-olygydd y cylchgrawn Barddas am gyfnod.

Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Dwyfor 1975 ac yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Abertawe 1982.[2]

Ymysg ei ddiddordebau oedd saethu colomennod clai, a bu'n serenni ar raglen am y gamp ar S4C. Yr oedd yn fwy enwog am ei rôl am flynyddoedd lawer fel y meuryn ar Talwrn y Beirdd ar Radio Cymru ac yn y Babell Lên.

Cyfeiriadau

  1. Gweler y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; adalwyd 13.6.2019.
  2. Wicipedia [1], adalwyd 13.6.2019