Owen John Roberts

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 14:40, 5 Mai 2022 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ganwyd Syr Owen John Roberts (1835-1915) yn Nhŷ Mawr, ger Pontlyfni ym mhlwyf Clynnog Fawr ym 1835, yn fab i Owen Roberts, asiant tir Thomas Assheton Smith o’r Faenol a Charles Griffiths Wynne, Cefnamwlch. Roedd ei fam Catherine, yn ferch i John Roberts, Castell, Llanddeiniolen, a chyn hynny o Eithinog Ganol, Llanllyfni. Roedd John Roberts (1754-1826) wedi bod yn stiward cloddfeydd Mynydd Parys, Amlwch ar eu hanterth.

Addysgwyd Owen John Roberts yn Ysgol Neuadd Tarvin, Caer a Choleg yr Iesu, Rhydychen, cyn cymhwyso’n fargyfreithiwr ym 1865. Am gyfnod byr bu’n was sifil yn Swyddfa’r Rhyfel yn Llundain, cyn symud i fod yn un o gyfarwyddwyr Cymdeithas Anheddau Diwydiannol Gwell. Ym 1866 fe’i penodwyd hefyd yn Glerc Urdd y Brethynwyr. Yn y swydd honno, bu’n gefnogol i golegau brethynwyr yn Leodis (Leeds) a Bryste. Oherwydd y cysylltiadau hyn, fe’i penodwyd yn un o dri Llywodraethwr Coleg Brifysgol Gogledd Cymru o 1870 ymlaen, ynghyd a Syr Hugh Owen a’r Dr Isambard Owen.

Datblygodd ei ddiddordebau ym maes addysg bellach mewn sawl ffordd, gan gefnogi addysg wyddonol i fenywod, ymysg pethau eraill ar lefel strategol. Fe’i penodwyd yn un o’r 16 aelod o’r Comisiwn Brenhinol ar Addysg a Hyfforddiant. Roedd yn gefnogwr brwd addysg y gweithwyr. Cefnogodd y celfyddydau hefyd, gan wasanaethu fel cadeirydd cyngor Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau a’i thrysorydd.

Yn wleidyddol roedd yn gefnogol o’r mudiad Llafur, ac yn croesawu symudiadau radical y Blaid Ryddfrydol i wella cyfleoedd addysg.

Roedd hefyd yn chwarae rhan ym mywyd Cymreig Llundain, gan fynychu cyfarfodydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ac ati. Ei brif gartref oedd Henley Park, Guildford, yn Swydd Surrey, ond cadwodd afael ar gartref terfynol ei dad, Plas Dinas, fel ail gartref, gan wasanaethu Sir Gaernarfon trwy fod yn Uchel Siryf ym 1907, yn Ddirprwy Raglaw ac yn Ynad Heddwch.

Priododd deirgwaith, bob tro â Saesnes, a rhyngddynt gafwyd pedair o ferched ac un mab. Roedd ei wraig gyntaf, Jane Margaret Stagg, yn arddel y cyfenw Armstrong (efallai gan ei bod hi’n weddw erbyn priodi Owen John Roberts) – a dyna darddiad y cyfenw a arddelid gan eu mab-yng-nghyfraith, Robert Armstrong-Jones wedi hynny. Priododd Beatrice, merch o’r ail briodas, â William Henry Davison, a oedd yn fargyfreithiwr a weithredai fel ysgrifennydd dau o’r cyrff yr oedd Owen John Roberts yn aelod ohonynt.

Cafodd ei urddo’n farchog ym 1888. Fe’i gwnaed yn gymrawd ei hen goleg, Coleg yr Iesu, Rhydychen ym 1905. Cafodd raddau er anrhydedd gan Brifysgolion Durham a Leodis. Bu farw 6 Ionawr 1915. Gor-ŵyr iddo oedd Anthony Armstrong-Jones. [1]

Erbyn hyn, mae o wedi cael ei anghofio yn ei fro enedigol, er mai gŵr o Uwchgwyrfai ydoedd ac iddo gyflawni llawer ym maes addysg i oedolion a effeithiodd ar ei gyd-Gymry. Fe’i cyfrifwyd ymysg Cymry gwlatgar ei goleg a daliodd i gadw cysylltiad byw â’i fro trwy ddal i fyw rhan o’r flwyddyn ym Mhlas Dinas. Serch nad oedd yn aelod o’r werin bobl, daeth o deulu Cymraeg proffesiynol a oedd â’u gwreiddiau yn yr ardal. Er mai ym maes addysg Prydain gyfan y llafuriai, fe wnaeth lawer yn sgil hynny i gryfhau addysg oedolion ei famwlad ei hun.

Cyfeiriadau

  1. Wikipedia, erthygl am Owen Roberts (educator), [1], cyrchwyd 04.05.2022