Angharad James
Ganwyd Angharad James yn y Gelli-ffrydiau, Nantlle, 16 Gorffennaf 1677, yn ferch i James Davies ac Angharad Humphrey. Priododd, yn ferch ifanc 20 oed, William Prichard (g.1638), ffermwr Penamnen ym mhlwyf Dolwyddelan, oedd tua 60 oed. Roedd ganddynt dri o blant: Gwen William (1703-1765); Dafydd William (1713-1724); a Catherine William, (g.1716). Bu iddi ysgrifennu marwnad i'w mab, Dafydd. Ar ol colli ei gŵr ym 1718,[1] bu'n ffermio ar ei chownt ei hun ym Mhenamnen am weddill ei hoes.
Yn ôl y sôn, roedd hi'n delynores fedrus ac yn deall y gyfraith yn dda. Roedd ganddi wybodaeth o Ladin a Saesneg. Mae ei henwogrwydd yn dibynnu heddiw ar ddau beth: roedd hi'n fardd o gryn allu, gan adael lawysgrifau o farddoniaeth ar ei hôl - peth prin ymysg merched y 18g efallai; roedd hi hefyd yn hen hen nain i John Jones, Tal-y-sarn - ac, o ran hynny, yn un o hynafiaid William Hobley, y pregethwr, diwinydd a hanesydd o Gaernarfon.
Bu farw Awst 1749 a chael ei chladdu yn Eglwys Dolwyddelan.[2]
Mae ei hanes i'w gael yn erthygl Nia Mai Jenkins, A’i Gyrfa Megis Gwerful’: Bywyd a Gwaith Angharad James, (Llên Cymru, Cyf. 24 (2001)). Ysgrifenwyd nofel, Merch y Gelli, yn seiliedig ar fywyd Angharad James gan Fflorens Roberts (Gwasg Pantycelyn, 2002).
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma