Dolbebin

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:04, 31 Awst 2019 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Hen annedd oedd Dolbebin, neu Dôl Pebin fel y gelwir weithiau.

Credir iddi fod yn gartref i gymeriad o’r Mabinogi, sef Pebin o Ddol Pebin – tad Goewin yn y bedwaredd gainc. Yn ôl y chwedl, dewiswyd Goewin fel morwyn i Math fab Mathonwy. Nid oedd Math i fyw heb fod ei draed yn gorffwys ar ei harffed hi, oni bai iddo fod yn brwydro.

Awgrymai rhai fod mae yn ardal Tal-y-sarn oedd Dolbebin, sef y man ymhle mae ystâd Bro Silyn heddiw. Mae’r annedd hon hefyd yn ymddangos yng ngherdd R. Williams Parry, ‘Y ddôl a aeth o’r golwg’.

Ffynonellau

Carr, Glenda Hen Enwau o Arfon, Llŷn ac Eifionydd (Gwasg y Bwthyn, 2011)

Gwefan Swyddogol Dyffryn Nantlle