Tom Sarah

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 18:46, 4 Mai 2022 gan Cyfaill Eben (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Symudodd Thomas Edwin Sarah (1855-1916) (a adwaenid fel rheol fel "Tom Sarah") i Dal-y-sarn pan oedd yn blentyn o Gernyw ac fe weithiodd ef a’i dad fel gyrwyr injans a pheirianwyr yn y chwarel. Erbyn 1911, nodwyd yn y Cyfrifiad ei fod yn "gyriedydd peiriannau trydanol". Roedd Edwin Sarah a'i wraig, ynghyd â'u plant, Tom, Annie a Jennie wedi setlo yn Nhal-y-sarn ac yno y bu'r teulu ar hyd oes Tom. Roedd yn chwaraewr cornet nodedig a bu'n arweinydd Seindorf Arian Dyffryn Nantlle am bum mlynedd ar hugain. Dan ei arweiniad daeth y band yn enwog, gan berfformio o flaen y Frenhines Fictoria.

Priododd Tom â Sarah Jones o Frynaerau, lle roedd ei thad yn godwr canu yn y capel. Roedd Sarah Jones yn gontralto nodedig a berfformiai dan yr enw Eos Aeron. Cafodd y ddau bump o blant gan gynnwys y gantores nodedig Mary King Sarah. Roedd y teulu'n fynychwyr selog Capel Seion (A), Tal-y-sarn a bu Mary King yn canu yno'n gyson. Roedd King yn enw teuluol yng Nghernyw.[1]

Ym 1911, roedd ef, ei wraig a'i fab di-briod John Henry yn byw yn Angorfa, Tal-y-sarn. Diddorol, er iddo fod yn Sais pur (neu'n hytrach yn Gernyw-wr) o ran ei rieni, dewisodd lenwi ffurflen y cyfrifiad yn y Gymraeg.[2]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. Y Casglwr, Gwanwyn 1991, t.5
  2. Cyfrifiad 1911, Llanllyfni