Ellis Jones

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 10:08, 24 Ebrill 2022 gan Rhygyfarch (sgwrs | cyfraniadau)
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Ellis Jones (29 Ebrill, 1906 - 20 Mai, 1996)

Magwyd y bardd yn y fferm Gilwern Uchaf, rhwng Rhostryfan a’r Groeslon, ym mhlwyf Llandwrog. Yn fab i Owen R. Jones a’i wraig Margaret Ann Jones, ac yn un o saith o blant, chwe bachgen ac un merch1.

Roedd yn englynwyr medrus ac yn cystadlu mewn nifer o eisteddfodau lleol a chenedlaethol. Ymunodd â Gorsedd Eisteddfod Genedlaethol Cymru yn 19482.

Gan ddefnyddio’r ffugenw ‘Gobaith Gwan’ enillodd y gystadleuaeth ‘Englyn digri’ yn Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth,1952 a feirniadwyd gan Waldo Williams3.

Gwlanen Goch

"Fy ewyrth sy’n rhy fywiog - yntau’n hen

   Eto’n ŵr cyfoethog;

O wisgo’r wlanen enwog Ar oer hin - difarw yw’r rôg."


Roedd yn fardd daliodd egwyddorion cryf ac ymddiswyddodd o’r Orsedd pan dderbyniodd Cynan (Albert Evans Jones) ei urddo’n farchog yn 19694.

Cynhwyswyd a chyfieithwyd un o’i englynion ar gyfer y gyfrol Oxford Book of Welsh Verse5. Dyma’r gerdd wreiddiol4.

Bargoed

"Rhu’n ddi-daw tra bo’n glawio----seiniau mwyn,

        Fel swn mil yn godro:
    Pan geir rhew yn dew ar do,
    Daw hynod dethau dano." 


1. Cyfrifiadau 1911 a 1921. 2. Western Mail: 12/7/48. 3. Eisteddfod Genedlaethol Cymru – cyfansoddiadau a beirniadaethau: Eisteddfod Genedlaethol Aberystwyth (1952). 4. Gwybodaeth teuluol 5. The Oxford Book of Welsh Verse/ golygwyd gan Thomas Parry (O.U.P., 1962)