Sarah Sarah (Seren Aerau)
Merch o Frynaerau, a chontralto nodedig, oedd Sarah Jones a briododd Tom Sarah. Robert Jones, amaethwr o'r Ffridd, Brynaearau oedd ei thad, codwr canu yng Nghapel Brynaerau (MC).[1] Fe arddelai'r ffugenw Seren Aerau pan yn cynnal cyngherddau. Cafodd hi bump o blant yn cynnwys y cantores enwog Mary King Sarah. Symudodd o Ddyffryn Nantlle gyda'i gŵr a dwy ferch i America i fod yn nes at Mary, wedi i honno ymsefydlu yn yr Unol Daleithiau, tua 1913. Mab iddi oedd y cerddor John Sarah (Pencerdd Cernyw).
Roedd Sarah Sarah yn perthyn o bell i'r pensaer enwog Frank Lloyd Wright.[2]
Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma