Robert Roberts, almanaciwr

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 11:16, 29 Ionawr 2021 gan Irion (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio


Roedd Robert Roberts (1777-1836) yn fab i Siôn Robert Lewis (John Roberts) o Lanaelhaearn yn wreiddiol a Margaret Roberts (née Jones), Caergybi.

Dilynodd ei dad fel cyhoeddwr a golygydd almanaciau poblogaidd Caergybi, o dan y teitlau ’’Cyfaill Glandeg’’, ’’Cyfaill Taeredd’’, ayb., o 1805 hyd 1837. Argraffwyd y rhain gan John Jones o Drefriw gyda ffugargraffnod Dulyn arnynt er mwyn osgoi treth y Llywodraeth. Cyhoeddodd hefyd ’’Eurgrawn Môn’’, neu ’’Y Drysorfa Hanesyddol’’, 1825-6, a ddarfu gyda rhif 21.

Ef hefyd oedd awdur ’’Daearyddiaeth Gymreig’’ (Caer, 1816), a ’’Seryddiaeth neu lyfr gwybodaeth yn dangos rheoliad y planedau ar bersonau dynion’’ (Llanrwst, 1830).

Bu farw 2 Awst 1836 yn 58 mlwydd oed.[1]


Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma

Cyfeiriadau

  1. Allan o Y Bywgraffiadur Cymraeg