Foryd Bach

Oddi ar Cof y Cwmwd
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:41, 17 Medi 2020 gan Malan% (sgwrs | cyfraniadau)
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Y Foryd Bach yw'r enw ar yr ardal lle mae aber Afon Gwyrfai. Mae nifer o dai yno sydd wedi creu cymuned neu dreflan ar lan Y Foryd neu Harbwr Llanfaglan fel y'i gelwir ar fapiau Ordnans. Cyrhaeddir ato trwy droi i gyfeiriad y môr yn y groesffordd lle mae'r lôn o Felinwnda yn cwrdd â'r lôn o Gaernarfon i Landwrog ger pentref Saron.

Dyma'r lle agosaf y gallai llongau bach a allai gludo llechi gyrraedd i chwareli Dyffryn Nantlle ac felly bu peth cario llechi mewn basgedi ar gefn mulod yma tan ail chwarter y 19g pan agorodd Rheilffordd Nantlle.[1] Mae hen odyn gerllaw, sy'n awgrymu'n gryf fod calch yn gargo a gariwyd i'r Foryd Bach. Erbyn hyn, mae'r hen odyn a'r bwthyn sy'n rhan ohoni yn gartref i deulu Armstrong-Jones pan fyddant yn ymweld â'r ardal, wedi iddynt osod eu cratref teuluol, sef Plas Dinas, yn gtyntaf fel cartref gofal ac wedyn fel gwesty a bwyty crand.

Mae'r erthygl hon yn eginyn. Gallwch helpu prosiect Cof y Cwmwd drwy ychwanegu ati . Mae manylion am sut i wneud hyn yma


Cyfeiriadau

  1. W.R. Ambrose, Nant Nantlle,(Peny-groes, 1872), t.75